Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot yn dod ag arweinwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghyd o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol. Diben y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r bwrdd yn cynnwys aelodau statudol. Dyma gyfranogwyr statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Cyfoeth Naturiol Cymru a Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dyma gyfranogwyr gwadd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot:
Rydym am i Gastell-nedd Port Talbot fod yn lle bywiog ac iach lle mae gan bobl gyfle cyfartal i ddatblygu yn eu bywydau - rhywle y mae pobl am fyw, dysgu a buddsoddi ynddo ac ymweld ag ef am genedlaethau i ddod.
Rydym am i wasanaethau cyhoeddus lleol, sy'n cynnwys y Trydydd Sector, fod yn effeithiol ac yn werth da am arian, yn hawdd i bobl eu defnyddio a chynnig cyflogaeth o safon lle caiff pobl eu gwerthfawrogi am y gwaith maent yn ei wneud. Gyda dinasyddion, byddwn yn adeiladu ar ein cymunedau cryf a chydlynol lle caiff hawliau pawb eu parchu a'u diogelu.
Rydym am i'n gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar alluogi pobl a chymunedau i fod yn wydn a bydd yn arferol i ddinasyddion brofi gwasanaethau llyfn, wedi'u personoli ac o safon. Bydd cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn creu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi a fydd yn galluogi i'r fwrdeistref sirol ddenu a chynnal cyflogaeth gynaliadwy o safon i bobl leol.
Bydd ein cymunedau wedi'u cysylltu'n dda trwy isadeiledd digidol a chludiant o'r radd flaenaf a chaiff ein hamgylchedd naturiol ei warchod a hefyd ei ddatblygu i gefnogi byw iach a buddsoddi.
Byddwn wedi cyflawni ein gweledigaeth os bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd; os bydd gan yr holl bobl ifanc ac oedolion y sgiliau a'r gwydnwch i fod yn iach ac yn ffyniannus; os bydd pobl yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel; os bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn cefnogi'r bobl sy'n byw ynddynt ac yn fannau lle gall pobl dderbyn cymorth gan gymdogion neu rwydweithiau cymdeithasol sydd wedi'u datblygu'n dda.
Mae'r Cynllun Llesiant yn cyflwyno gweledigaeth hirdymor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer yr ardal, yn ogystal â blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn ystod y 5 mlynedd nesaf.
Mae'n ystyried beth sy'n dda am Gastell-nedd Port Talbot; yr heriau mae'r ardal yn eu hwynebu yn awr ac i'r dyfodol; a ble mae cyfle, trwy gydweithio mewn ffordd wahanol, i helpu i wella llesiant pobl leol.
Cyhoeddodd y Bwrdd eu Cynllun Lles lleol cyntaf yn 2018
Mae Cynllun 2023-2028 wedi cael ei ddrafftio o amgylch set helaeth o ddata a thystiolaeth ymchwil a gyhoeddwyd yn Asesiad Llesiant 2022.
Rydym ni’n awyddus iawn i glywed eich barn ar ein cynlluniau cyfredol, i’n helpu i wella’r rhain ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnal Asesiad Llesiant yn adolygu tirlun cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol CNPT, ac ar sail hynny rydym wedi cytuno ar bedwar amcan llesiant i flaenoriaethu ein gwaith yn ystod y pum mlynedd nesaf, sef:
Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am bob amcan yn ein Cynllun Lles draft
Dechrau gorau
Creu Cymunedau Ffyniannus a Chynaliadwy
Gellir mwynhau ein hamgylchedd, diwylliant a'n treftadaeth leol gan genedlaethau'r dyfodol
Swyddi a sgiliau
Math o ffeil | Dogfen | Maint ffeil |
---|---|---|
Adroddiad Blynyddol (2024)
|
2.02 MB | |
Adroddiad Blynyddol (2022)
|
1.57 MB | |
Adroddiad Blynyddol (2021)
|
3.71 MB | |
Adroddiad Blynyddol (2020)
|
2.18 MB | |
Adroddiad Blynyddol (2018-2019)
|
993 KB | |
Cynllun Lles
|
1.34 MB | |
Cynllun Lles - Diagram
|
189 KB | |
Cynllun Lles 2018 – 2023
|
2.40 MB | |
Cyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot
|
381 KB |
Rydyn ni’n awyddus i glywed eich awgrymiadau yn barhaus ynghylch sut i wella llesiant pobl Castell-nedd Port Talbot. Os hoffech chi ymwneud â datblygiad y cynllun hwn yn y dyfodol, rhowch eich enw a’ch manylion cyswllt i ni
Cysylltwch â ni drwy'ry